Next Page >  Tudalen Nesaf >

TAITH O GWMPAS PENTYRCH

Allan o Gwmpas  Cefn Gwlad

Dros rifynnau nesaf Cwlwm Bro bydd cyfres o erthyglau am hawliau cerdded, teithiau cylchol a chefn gwlad yn gyffredinol. I ddechrau'r gyfres dyma fanylion am daith gerdded o gwmpas Pentyrch. Mae'r Cyngor Cymuned yn ddiolchgar i Julius Roszkowski o Gerddwyr Llantrisant a ddyfeisiodd y daith gerdded.

TUA 5KM (3M). 1½ AWR DROS GAEAU GYDA RHIW CYMHAROL HAWDD

Dechreuwch ger y siopau yng nghanol Pentyrch. Dilynwch y ffordd tua Creigiau nes bron a chyrraedd yr ysgol. Cymerwch y llwybr ar y dde drwy'r gât a dilynwch y ffens haearn o gwmpas a thu ôl i'r ysgol. Ewch drwy gât a dilynwch y clawdd ar ochr dde y cae i'r gornel pellaf. Pan gyrhaeddwch  ben draw'r cae trowch i'r dde dros gamfa i olion tþ Bryste Fach. Roedd hwn yn stordy ar gyfer crwyn lledr yn y 18ed Ganrif. Mewnforiwyd y crwyn drwy Gaerdydd o Fryste i gyflenwi cobleriaid sgidiau a chyfrwywyr lleol.
   Ewch dros y gamfa nesaf i'r cae. Dringwch y bryn gan gadw i ochr chwith y cae gan ddilyn y berth. Ewch dros dwy gamfa yn y rhesi o goed wrth fynd lan. Wedi'r ail  gamfa (wrth y trac) ewch i'r dde i'r gamfa yng nghornel pellaf y cae. (Peidiwch â mynd am y gamfa i'r dde nac o'ch blaen chi).
   Ewch dros y gamfa ac ewch am y gornel pellaf i'r dde (yn y coed). Croeswch y gamfa i'r ffordd a throwch i'r dde tuag at Bentyrch. Yn syth tu ôl i arwydd y pentref ar y chwith mae camfa i'r cae. Croeswch y gamfa i'r cae ac wrth ddilyn llinell y coed dringwch nes ddod at berth wedi torri. Ewch drwyddo a throi i'r dde nes cyrraedd y berth nesaf.

Croeswch drwy'r berth a throwch i'r chwith i gornel pellaf y cae a thros dwy gamfa i'r ffordd.
   Ewch i'r chwith tuag at Mynydd y Garth am 100m i'r llwybr ar y dde yn uchel yn y berth. Cymerwch ffordd ar draws y cae, croeswch y gamfa nesaf a throwch tipyn i'r dde tuag at y Goedlan o'ch blaen. Cadwch y perthlys o goed yn y cae yn bell i'r dde ohonoch. Croeswch y ffens a throwch i'r chwith nes cyrraedd y nant. Croeswch y nant ac ewch i lawr y rhiw gan gadw'r nant ar eich ochr dde hyd nes i nant arall ymuno o'r chwith.  Croeswch y nant a dilynwch hi gan gadw ar y chwith nes cyrraedd gamfa yn y llwybr (ger y trac). Croeswch y ffens a throwch yn syth i'r dde gan gadw'n agos i'r ffens. Ar ôl rhyw 50 m croeswch y gamfa i mewn i'r goedwig.
   Dilynwch y llwybr gan droi i'r chwith ymhen lOm. Cerddwch drwy'r coed nes cyrraedd y bont dros y nant ar y dde. Croeswch y bont a dilynwch y llwybr lan i'r brif-ffordd o Bentyrch i Waelod y Garth. Croeswch y gamfa ac ewch i'r dde tuag at mynedfa'r chwarel o fewn rhai metrau. Ewch lan ffordd y chwarel am 200m a throwch i'r dde i fyny lôn wledig cul (gall y lôn fod yn fwdlyd). Dilynwch y lôn nes cyrraedd Cefn Bychan ac yna ewch yn syth ymlaen tua Pentyrch. Dilynwch hwn yn ôl i'r man cychwyn y tu hwnt i Dafarn y Lewis.

Rheolau
Cefn Gwlad


Cofiwch ble bynnag yr ewch dilynwch Reolau Cefn Gwlad :-

  • Mwynhewch gefn gwlad a rhowch barch i'r bywyd a'r gwaith sydd yno;
  • Diogelwch rhag achosi tân;
  • Cloiwch pob gât;
  • Sicrhewch fod eich ci dan reolaeth agos;
  • Arhoswch ar y llwybrau cyhoeddus ar draws fferm dir;
  • Defnyddiwch y gatiau a'r camfa i groesi perthi, ffensus a waliau;
  • Gadewch lonydd i anifeiliaid, cnydau a peirianwaith;
  • Ewch a'ch sbwriel adref;
  • Helpwch i gadw dðr yn lân;
  • Amddiffynwch fywyd gwyllt, planhigion a choed;
  • Cymerwch ofal arbennig ar ffyrdd gwledig;
  • Peidiwch â gwneud sðn di-bwrpas.

CERDDWYR
LLANTRISANT 

01443 237086


www.apyule.demon.co.uk/taffely.htm

9

Next Page >   Tudalen Nesaf >