Dyma'r ail o erthyglau am deithiau cylchol . Diolch unwaith eto i Julius Roskowski,
Cerddwyr Llantrisant.
Ewch lan y pentref (i ffwrdd o Ffynnon Daf). Trowch
i'r chwith ger Tafarn Gwaelod y Garth a dringwch i fyny'r
ffordd nes cyrraedd troad siarp i'r chwith. Ewch syth
ymlaen ar hyd llwybr garw sy'n arwain at gamfa a giât.
Ewch drwy'r giât ac ymlaen ar hyd y llwybr am tua 700m i Fferm
Lan gan gymeryd y fforch i'r chwith wrth ei gyrraedd.
Cerddwch drwy glos y fferm ac i'r lôn tu hwnt.
Ewch ymlaen ar hyd y lôn nes cyrraedd gât metel
ar y ffordd. Trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd. Cymerwch
y fforch i'r chwith lan y lôn i fferm Garth Fawr. Croeswch
y gamfa, gwyrwch i'r dde yn dilyn y lôn ac yna cymerwch
y llwybr i'r chwith tuag at adfeilion hen fferm. Parhewch
ar hyd y llwybr lan nes cyrraedd pen Mynydd y Garth.
O'r fan hyn mae golygfeydd ysblennydd. Gellwch
weld cymoedd y Rhondda, Cynon a Thaf . Ac i'r de gwelwch
arfordir Caerdydd a'r Fro a
thros Fôr Hafren
i Wlad yr Haf
Mae dau ddewis i ddychwelyd, naill ai dros ben
y Garth neu ffordd haws ond hirach yn y cwm.
UN O'r safle Trig wynebwch y môr. Islaw i'r twmpath
mae llwybr defaid yn croesi copa'r mynydd. Cymerwch y
ffordd i'r chwith tuag at Ffynnon Taf yna ger diwedd y
mynydd ewch ar lwybr i'r dde tuag at rhan creigiog gyda
golygfeydd arbennig o'r cwm islaw. Gwyrwch i'r dde
cyn y creigiau, ar hyd llwybr cul yn arwain ar hyd ochr y
mynydd.
Parhewch i gerdded tuag at nant a sgwd fach;
gwyrwch i'r chwith ac ewch lawr i'r ffordd.
DAU O'r safle Trig, ewch ar hyd y llwybr amlwg tuag at
Bentyrch (cyfeiriad y de). Ymunwch â'r ffordd ac ewch
syth ymlaen dros y grid anifeiliaid i'r gyffordd T. Trowch
i'r chwith ac ar ôl 10m ewch i fyny dros y gamfa yn y
clawdd ar eich chwith. Cymerwch ffordd tua'r dde ar draws
y cae i gamfa. Ewch dros y gamfa ac ewch syth ymlaen a thipyn
bach i'r chwith nes cyrraedd llwybr hen lôn. Dilynwch
y lôn syth ymlaen nes cyrraedd camfa arall. Ewch dros y gamfa
a pharhau i'r un cyfeiriad gan gadw y coed i'r chwith
nes cyrraedd y fferm. Ewch trwy dair gât heibio'r hen
adeiladau a dilynwch y lôn i gamfa ar y ffordd. Croeswch y
gamfa a throwch i'r dde lawr y ffordd nes cyrraedd y llwybr
ar y dde.
Y Ddwy Ffordd Cymerwch y llwybr drwy'r caeau i gamfa i mewn i'r
goedwig; trowch i'r dde a dilynwch y llwybr i lawr trwy'r
coed. Hwn yw Coed Rhiw'r Ceiliog Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig a gwarchodfa i nifer o blanhigion prin.
Dilynwch y llwybr heibio'r "groesffordd"
a pharhewch i fynd lawr nes cyrraedd y ffordd. Trowch i'r
chwith a dilynwch y ffordd yn ôl i Ysgol Gwaelod y Garth.
Tua 5.5Km (3.5M)
1.5 awr (gyda'r dewis i wneud 0.5Km ychwanegol)
Llwybr - dringo am gyfnod hir o 2 filltir gyda rhai
rhannau serth.
Disgrifiad Dechreuwch
ger yr Ysgol yng Ngwaelod Y Garth.
Mae'r pentref hynod hwn yn cynnwys nifer o fythynnod
traddodiadol wedi eu cadw yn dda, adeiladwyd rhai yn wreiddiol
ar gyfer gweithwyr yn y gweithfeydd haearn a brics lleol.
Bu cloddio am adnoddau naturiol yr ardal dros y canrifoedd
yn arbennig am haearn. Ar ddiwedd y 16eg ganrif codwyd ffwrnesi
haearn ar safle ger yr afon, gan osod trywydd a barhaodd yng
ngwaith Cwmni Haearn Pentyrch a fu'n gweithio hyd yr 1890'au.