<Tudalen Blaenorol  <Previous Page  Cwlwm Bro 54 Community Link Next Page > Tudalen Nesaf>

4th Birthday Party


The Pentyrch Good Neighbour's Luncheon Club held their 4th Birthday Celebrations at the Village Hall on  Tuesday 19 March 2002.
   Thanks go to a faithful band of helpers who cook the meals at the Village Hall  every week and especially to Miss Betty Nixon who organises the chefs.  Many of the older members of the local community attend each week and enjoy a good meal and a chat with friends.
   There is a certain amount of rivalry between the three villages as Gwaelod y Garth members are very lucky with the raffle. 
   Mrs Yvonne Krip and myself attended and as this was a special occasion the Community Council presented all those present, including helpers, with a small gift of a potted Primula plant.  These will hopefully be a remembrance of an enjoyable day and flower for many weeks.
   New members are invited to join don't worry about how you get there transport is organised by  the Good

PRIODAS BETHLEHEM

EISTEDDFOD YR URDD CAERDYDD


Mae plant Ysgol Gynradd Creigiau ac Ysgol Gwaelod y Garth yn paratoi i gystadlu a chymeryd rhan yn yr Eisteddfod ym mis Mehefin. Bydd nifer o'r plant yn cymeryd rhan mewn sioe gynradd "Syniad Sam" a lwyfennir yn Neuadd Dewi Sant ar 3 -- 5 Mehefin.

Y Fari Lwyd


Mae'r hen Fari wedi bod yn brysur eleni eto, wrth iddi ymweld ag Ysgol Creigiau ac ag Ysgol Santes Tudful. Hefyd, bu'n ymweld â Merched y Wawr ac yn ogystal aeth ar daith o gwmpas Pentyrch yn ymweld â'r Clwb Rygbi, Tafarn y Kings a'r Lewis. Tra'n crwydro, llwyddodd i godi £105 tuag at Gronfa Arch Noa.

Ar ddydd Sadwrn olaf mis Ionawr priodwyd Bethan Ellis Owen â'r Parchedig Gareth Rowlands. Roedd yn achlysur arbennig iawn i Gapel Bethlehem, Gwaelod y Garth gan mai Gareth yw Gweinidog y capel a Bethan yn un o'r aelodau. Cafwyd datganiadau telyn a chytgan gan gôr y capel yn ystod y gwasnaeth dan ofal Y Parch Pryderi Llwyd Jones. Cynhaliwyd y wledd briodas yng Ngwesty'r Fro, Hensol.

Merched Y Wawr

Cafwyd noson hwylus yn y Kings Arms yn cyfarch y Fari Lwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Ar nos Fercher, 13eg Chwefror, cawsom gwmni Angharad Rogers. Roedd ei brwdfrydedd wrth gyflwyno'r Gymraeg i drigolion y Wladfa yn amlwg, ac roedd yn fyrlymus wrth gyflwyno ei phigion o Batagonia. Diolch am noson wych! Manylion pellach: 20890979.

Neighbours Co-ordinator Mrs Barbara Willis Tel: 029 2084 2404.

Angela Ashley

Clwb y Dwrlyn

Trefnwyd Twmpath Dawns lwyddiannus iawn gyda Jac y Do ym mis Ionawr. Roedd Neuadd Pentyrch yn orlawn a chodwyd arian sylweddol tuag at Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd.
   O flaen tanllwyth o dân yn Nhafarn y Kings cynhaliwyd gyrfa chwist ym mis Chwefror. Yn y diwedd Jen Mac Donald (ar ran y merched) a Penri Williams (ar ran y dynion) a orfu. Diolch yn fawr i Jim Morris am gadw trefn ar y gweithgareddau a sicrhau noson o fwynhad i bawb oedd yn bresennol.
   Dathlwyd Gwyl Ddewi mewn cinio yng Nghlwb Golff Radyr, y gwr gwadd oedd Gari Owen. Manylion pellach: 20 891426.

<Tudalen Blaenorol  <Previous Page 

14

Next Page > Tudalen Nesaf>