<Tudalen Blaenorol  <Previous Page  Cwlwm Bro 54 Community Link Next Page > Tudalen Nesaf>

TAITH O GREIGIAU

Taith gan John Varley a'r  diweddar David Jenkins.

Taith o Greigiau

Taith mewn cylch pleserus tua 31/2 milltir ar hyd caeau. Gellir ymestyn y daith i Bentyrch. Yn eithaf fflat gyda un rhiw.

Dechrau: Tafarn y Creigiau.
Ewch ar hyd Ffordd yr Orsaf gan groesi dros ddau hen font rheilffordd. Wrth i chi groesi'r bont cyntaf edrychwch i'r chwith a gellwch weld olion platfform hen orsaf reilffordd Creigiau ar y rheilffordd o Bontypridd i'r Barri.
   Mae'r ail font yn croesi rheilffordd o Radyr i Cross Inn. Ewch i'r dde wrth fynediad yr hen chwarel ar hyd Heol Pantygored am 50m, yna trwy giāt ar y chwith, ewch lan y rhiw i'r chwith tuag at ffensys gerddi. Ewch dros y gamfa a throwch i'r chwith. Ewch trwy giāt, ar draws cae lan y rhiw i giāt arall. Ewch trwy'r giāt a chan gadw'r clawdd i'r chwith fe welwch dai Pentyrch o'ch blaen. Ar waelod chwith y cae ewch trwy giāt ac ewch ymlaen i'r un cyfeiriad drwy'r cae nesaf i giāt o'ch blaen. Yma gellwch ymestyn y daith i Bentyrch wrth fynd syth ymlaen.

Ewch drwy'r wal gerrig. Yr adfeilion ar y chwith yw gweddillion Bryste Fach, storfa ar gyfer crwyn lledr yn ystod y 18ed ganrif. Mewnforiwyd y crwyn drwy Gaerdydd o Fryste ac fe'i defnyddiwyd i gyflenwi gwneuthurwyr esgidiau a chyfrwywyr yn yr ardal. Ewch i'r dde gan groesi tir garw a dringo camfa yn y gornel dde. Croeswch y ffordd (chwith i Bentyrch) a dros y gamfa ac ewch ymlaen am 80m yna i'r chwith trwy giāt rhwng y coed newydd. Ewch am gornel dde y cae gan gadw'r coed i'r dde.  Chwiliwch am y gamfa yn y ffens o'ch blaen, ewch drosto ac ewch trwy'r coed i gornel y cae. Dringwch lan i giāt ac i mewn i gae,  gan ddilyn ffens ar y chwith i giāt mewn wal gerrig ble gellwch weld ym Mhentwyn adfeilion fferm. Roedd yr ardal hon yn rhan o ystād Craig y Parc. Trowch i'r dde i lawr y ffordd gan basio'r tu olaf i'r chwith ac at gamfa ar y chwith ger clwyd fferm. Ewch dros y gamfa gan gadw'r cladd i'r dde ac anelu syth ymlaen gan basio'r coed ar y llethr i'r chwith a'r peilon trydan i'r dde. Ewch drwy'r glwyd ac fe welwch Meithrinfa Pant y Caerau o'ch

blaen. Daw enw'r feithrinfa o gaer oes y cerrig ar ben y bryn.

Cyn y tai, ewch dros gamfa yn y ffens ar y dde ger giāt. Trowch i'r dde i fynd ar draws cae i'r dde o'r coed tuag at gamfa. Ewch lan y bryn i dde uchaf y cae ger polyn trydan, dros gamfa a throwch i'r dde ar hyd y lōn ac yna i'r chwith lawr y rhiw. Ewch heibio'r t ar y chwith (gyda clwydi haearn) a chwiliwch yn y clawdd ar y dde am gamfa, heibio polyn trydan (tua 50m).

Ewch dros y gamfa a thros y cae gan gadw ffens y coed ar y dde am 80m, yna ar draws i'r chwith i lawr i ddarganfod camfa yn y clawdd o'ch blaen. Ewch dros y gamfa gan anelu ar draws y cae drwy'r eithin i' gwaelod y chwith. Uwch eich pen mae wal Craig y Parc. Ewch trwy'r giāt i'r coed ar hyd llwybr marchogaeth geffylau (gall fod yn fwdlyd) drwy'r coed dros hen bont gerrig. Ar ochr y goedwig ewch ar dros nant ac i'r dde ar draws tir garw i'r ffordd. Y nant hon yw Nant y Glaswg sy'n codi o ffynnon rhyw hanner milltir i'r gogledd. Trowch i'r dde heibio'r gyfnewidfa teleffon ar y dde ac ar y gyffordd trowch i'r chwith (arwydd Creigiau ½ milltir) gyda phafin ar ochr dde y ffordd.
   Ar ōl y blwch post ewch i'r dde ar hyd trac caregog ac yn fuan i'r chwith heibio garej dau lawr y tu cefn i'r tai. Ewch drwy giāt metel, gyda'r clawdd i'ch chwith yna ewch i'r chwith ar draws cae i lawr rhiw i'r coed. Trwy'r giāt ewch i'r dde ar y ffordd a dilynwch rownd gornel ar hyd Ffordd yr Orsaf i fan cychwyn y daith.



<Tudalen Blaenorol  <Previous Page 

9

Next Page > Tudalen Nesaf>